
ColorSec yw calchlif (limewash) y gellir ei liwio. Mae'r daflen lliw isod yn dangos y lliwiau safonol sydd ar gael trwy Vivus. Mae defnyddio lliwiau safonedig yn bwysig ar gyfer cadw cysondeb lliw ar draws yr adeilad cyfan. Dylid nodi bod calchlif yn edrych yn dywyllach pan fydd yn wlyb / llaith felly bydd amrywiad naturiol mewn lliw yn ystod neu ar ôl glaw pan fydd y rendr yn sychu. Po dywyllaf yw'r lliw, y mwyaf amlwg yw'r gwahaniaeth lliw.
Mae ColorSec yn gweithio mewn harmoni â DiffuSec oherwydd yr agregau a ddefnyddir. Rhagwelir y bydd angen haen newydd o ColorSec ar y rhan fwyaf o adeiladau unwaith bob 10-15 mlynedd. Serch hynny, rhaid nodi ei bod yn hanfodol bod y rendr wedi'i orchuddio â chalchlif gan fod hyn yn cadw cyfanrwydd y system rendr gyfan. NID oes modd defnyddio paentiau gwaith maen oherwydd byddent yn peryglu'r system.